Angel Hafodunos: Bywyd Bardd Mewn Naw Tablo
Bywyd a gwaith Margaret Sandbach yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect ffotograffiaeth uchelgeisiol gan yr artist rhyngwladol, Manuel Vason, mewn cydweithrediad â’r cwmni cynhyrchu o Gaerffili, Truth Department.
Ganwyd Manuel Vason yn Padua, Yr Eidal ym 1974. Yn 1998 symudodd i Lundain ac wrth gynorthwyo rhai o’r ffotograffwyr uchaf ei barch yn y diwydiant ffasiwn dechreuoedd y prosiect perffrmiad celf byw “Exposure”.
Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi ar L'Uomo Vogue, ID, Dazed and confused, Tate Magazine ac ati ac yn arddangos yn Tate Lerpwl, ICA Llundain, Whitechapel Gallery Llundain, Amgueddfa VB (Y Ffindir), Museo delle Papesse (Yr Eidal).
Comisiynwyd Manuel Vason gan Truth Department i greu cyfres o naw tablo ffotograffig fyddai’n ymateb i fywyd a gwaith Margaret Sandbach. Ymddangosodd y delweddau gyntaf fel rhan o Fotofringe yng Nghaerdydd yn Mehefin 2014 ac fe’u cyhoeddir yn y gyfrol ddwyieithog Margaret Sandbach: Trasiedi Mewn Inc a Marmor.
Gweithiodd criw a chast o ugain i greu’r delweddau mewn dau gam. Yn gyntaf crewyd delweddau yn y stiwdio yn Llandudno, a’u hatgynhyrchu mewn gwahanol ffyrdd. Aethpwyd â rhein i’r lleoliadau i ymddangos yn y tablos terfynnol; i Erddi Bodnant, i gartref Regentaidd yn nyffryn Conwy ac i Hafodunos ei hun. Ac yn y delweddau, ymddengys y berfformwraig Michelle Outram fel Margaret; Oshi Davies, sy’n ddisgybl yn Ysgol Penybryn, Bae Colwyn, fel brawd marw Margaret; Stephen Peckham fel Henry Sandbach, g?r Margaret; ac fe welir y cerflunydd Nick Elphick o Landudno yn y ffrâm fel ei gymar Fictoraidd o Gyffin, John Gibson, RA.
Dywedodd y ffotograffydd Manuel Vason, “Everything started from the story of Margaret’s life. Once we had all these ingredients we had to find a very good way of representing these stories, and we only had 9 images to do it in, so everything is very detailed”.
Ceir rhagor o wybodaeth am Angel Hafodunos ar facebook.com/theangelofhafodunos
|